Amdanom
Mae Arad yn gwmni ymchwil sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Sefydlwyd Arad yn 2004 ac rydym wedi datblygu enw da am annibyniaeth, creadigrwydd, dibynadwyedd ac arbenigedd gyda’n cleientiaid yng Nghymru ac ar draws y DU.
•
Ymchwil
Rydym yn cwblhau ymchwil i'r hyn sy'n gweithio'n dda o ran dylunio a datblygu rhaglenni.
•
Gwerthuso
Rydym yn gwerthuso effaith rhaglenni ac yn darparu argymhellion i gefnogi strategaethau'r dyfodol.
•
Polisi
Rydym yn asesu dyluniad a darpariaeth polisi a sut i wella gwasanaethau ein cleientiaid.
•
Dadansoddi
Rydym yn casglu ac yn dadansoddi data ansoddol a meintiol drwy arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws.
Ein gwaith
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau ymchwil gan gynnwys gwerthuso, datblygu polisi, astudiaethau effaith economaidd a chymdeithasol, dylunio arolygon, dadansoddi data ac astudiaethau dichonoldeb.
TÎM
Mae ein tîm o ymchwilwyr yn greadigol, yn hyblyg, yn hawdd mynd atynt ac yn broffesiynol. Mae gennym arbenigedd mewn dylunio methodoleg ymchwil a gwerthuso a chynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel.
“Roedd gwerthusiad o’n Strategaeth Sgiliau Ffilm yn drylwyr ac yn fanwl. Roeddem yn falch iawn o ansawdd allbynnau, dibynadwyedd data ac adrodd cysylltiedig, cadernid a thrylwyredd y fethodoleg. Argymhellir yn fawr, mae Arad yn rhoi gwerth am arian.”
— ScreenSkills