Stuart Harries
Cyfarwyddwr
Mae Stuart yn un o gyfarwyddwyr sefydlol Arad ac mae ganddo brofiad ymchwil a gwerthuso sy'n rhychwantu bron i 30 mlynedd. Graddiodd Stuart mewn economeg ac mae wedi arwain astudiaethau ymchwil a gwerthuso ar gyfer cleientiaid sy'n amrywio o sefydliadau elusennol i lywodraeth genedlaethol. Mae Stuart yn gyfathrebwr ardderchog yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn hwylusydd profiadol o gynadleddau, seminarau, a grwpiau ffocws.
Prif feysydd o ddiddordeb ac arbenigedd Stuart yw’r meysydd addysg, sgiliau, a'r farchnad lafur. Mae astudiaethau diweddar a gynhaliwyd gan Stuart wedi canolbwyntio ar ddylunio a gweithredu cwricwlwm ysgolion yng Nghymru, datblygu sgiliau'r gweithlu mewn sectorau fel y cyfryngau, teledu a ffilm, yn ogystal â pholisïau addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar. Mae Stuart hefyd wedi cynnal nifer o astudiaethau effaith economaidd ar gyfer cleientiaid gan gynnwys S4C a'r Urdd, yn ogystal ag astudiaethau sy'n canolbwyntio'n benodol ar y Gymraeg.
Y tu allan i'r gwaith, mae Stuart yn mwynhau chwarae pêl-droed pump-bob-ochr, garddio, a cherdded ei ddau Labrador, Poppy a Teddy.