Sioned Lewis
Cyfarwyddwr
Mae Sioned Lewis yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr Arad, gan ddod â bron i ddau ddegawd o brofiad ymchwil a gwerthuso ers sefydlu’r cwmni yn 2004. Mae’n fedrus mewn dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol, gan gynnwys hwyluso grwpiau ffocws, cyfweliadau un-i-un, dylunio holiaduron, a dadansoddi data. Mae Sioned wedi rheoli gwerthusiadau amrywiol ar gyfer prosiectau Llywodraeth Cymru, megis y Cynnig Gofal Plant a’r peilot Bwndeli Babi. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â gwerthuso'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac yn ddiweddar mae wedi cyfrannu at astudiaeth dichonoldeb ar gyfer rhaglen monitro addysg. Cyn ymuno ag Arad, roedd Sioned yn ymchwilydd cymdeithasol i Lywodraeth Cymru.
Pan nad yw'n gweithio, mae Sioned yn canu mewn côr ac yn mwynhau dal lan gyda ffrindiau. Mae hi wrth ei bodd yn cynllunio gwyliau ond, fel arfer, yn dirwyn i’r pen yn gwersylla yng Ngorllewin Cymru. Serch hynny, mae paned o goffi da yn hanfodol ni waeth y lleoliad.