Addysg

Rydym yn gweithio ar draws ystod o feysydd addysg gan gynnwys y cwricwlwm, dulliau addysgu a dysgu a datblygu’r gweithlu.

 
  • Llywodraeth Cymru (2024–27) 

    Gwerthusiad o'r Cwricwlwm i Gymru ar raddfa fawr yw hon, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Stirling, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol Bangor. Mae'r ymchwil yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys casglu data gydag ymarferwyr ysgol, ymchwil yn yr ysgol, arolygon a grwpiau ffocws gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr a rhanddeiliaid addysg ehangach. 

  • Mae Arad yn arwain gwerthusiad o'r diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, a bydd yr ymchwil yn parhau tan 2027. Comisiynwyd y gwerthusiad gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cynnwys datblygu theori newid ac asesu gweithrediad y system ADY. Mae ein dulliau ymchwil yn cynnwys dadansoddi data, arolygon, a gwaith maes gydag ymarferwyr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion, rhieni a dysgwyr. 

    Drwy'r gwerthusiad hwn, nod Arad yw cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd diwygio'r system ADY a'i effaith. 

  • (CLlLC 2023–25) 

    Mae Arad wrthi’n cynnal gwerthusiad o'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol. Buddsoddiad o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru yw hwn i gefnogi addysg gerddorol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru, ac i sicrhau cyfle cyfartal wrth gael mynediad at brofiadau a gweithgareddau cerddorol. Mae Arad wedi datblygu model rhesymeg a fframwaith gwerthuso i gefnogi'r gwerthusiad, ac mae'n gweithio gyda gwasanaethau cerdd awdurdodau lleol ledled Cymru i asesu cynnydd ac effaith y GCC. Un o brif nodau'r gwerthusiad yw asesu’r effaith o gael mynediad at brofiadau cerddoriaeth ar les dysgwyr mewn ysgolion a grwpiau cymunedol ledled Cymru. 

  • CCAUC (2023) 

    Prif amcanion ymchwil Arad oedd darparu mewnwelediad a dealltwriaeth i CCAUC o'r materion a wynebir gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Ymdriniodd yr ymchwil ag agweddau allweddol o’r profiad hwn gan gynnwys cymorth academaidd, cyfleoedd datblygu a hyfforddi, adeiladu cymunedol ymhlith myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a chynrychiolaeth ar lefel sefydliadol. Roedd y fethodoleg yn cynnwys cyfuniad o gyfweliadau ansoddol â sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid ehangach a grwpiau ffocws gyda myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o wyth sefydliad addysg uwch yng Nghymru.