Iechyd a lles

Rydym yn cynnal ymchwil a gwerthuso i gefnogi cleientiaid sy'n gweithio i wella iechyd a lles ehangach grwpiau amrywiol ar draws cymdeithas.

 
  • Versus Arthritis (2020–25) 

    Ers 2020, mae Arad wedi cynnal gwerthusiad blynyddol o'r prosiect CWTCH a ddarperir gan Versus Arthritis. Nod prosiect CWTCH yw grymuso pobl sy'n byw gydag arthritis i fod yn asiantau ar eu hiechyd a'u lles eu hunain, ac i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl ag arthritis i gydweithio i ddatblygu a chynnal gwasanaethau sy'n cael eu pweru gan y gymuned. 

  • Llywodraeth Cymru (2021–22) 

    Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Strategol Cyfnod Urddas Mislif i Gymru rhwng 2021 a 2022. Nod y cynllun gweithredu oedd datblygu a chyflawni cyfres o gamau gweithredu eang, cyfannol a oedd yn cyflawni gweledigaeth ar gyfer urddas mislif yng Nghymru. Cynhaliodd Arad ddadansoddiad thematig o ddata ansoddol a gasglwyd fel rhan o'r ymgynghoriad o gyfanswm o 250 o ymatebion. Yna cyflwynwyd y themâu allweddol hyn mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru ac roeddent yn cynnwys pynciau megis codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a chyda gweithwyr iechyd proffesiynol, lleihau stigma, a phwysigrwydd mynediad at gynhyrchion mislif. 

  • Adran Gwaith a Phensiynau (2020–22) 

    Rhaglen yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r Rhaglen Waith ac Iechyd sydd â’r nod o gefnogi unigolion â chyflyrau iechyd hirdymor yn ôl i gyflogaeth ystyrlon. Fel rhan o gonsortiwm gyda ICF a Kantar Public, gwerthusodd Arad effeithiolrwydd cyflwyno’r Rhaglen Waith ac Iechyd mewn lleoliadau daearyddol penodol ar draws y DU (canolbwyntiodd Arad ar Gymru) gyda phwyslais arbennig ar integreiddio gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth. Y nod oedd asesu a chymharu sut y datblygwyd dulliau cyflawni a sut maent yn gweithredu, yr heriau a beth oedd yn gweithio'n dda, a gwahaniaethau rhwng meysydd a dulliau comisiynu. Roedd y gwaith maes yn cynnwys cyfweliadau gyda chydlynwyr JCP ac asiantaethau eraill sy'n cefnogi unigolion ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor i gyflogaeth. 

  • (Care & Repair Cymru, 2018-20)

    Fe wnaeth Arad werthuso’r Model Ysgolion Arloesi, sydd yn datblygu cwricwlwm newydd i Gymru (gan gynnwys cymhwysedd digidol a datblygu proffesiynol). Mae’r Model Ysgolion Arloesi yn ddull newydd sydd yn cynnwys cydweithio rhwng partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol ac ysgolion. Roedd y gwerthusiad yn darparu adborth amser real i Lywodraeth Cymru ar sut mae’r model yn cael ei ddarparu ac yn crynhoi unrhyw wersi i hysbysu cyfnodau dilynol o ddarpariaeth. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys gwaith maes dwys dros ddwy flynedd gyda dros gant o ysgolion arloesi a rhanddeiliaid allweddol.