Joanne Davis
Uwch Ymchwilydd
Ymunodd Jo ag Arad fel uwch ymchwilydd yn 2022. Mae ganddi gefndir mewn dadansoddi data a 10 mlynedd o brofiad o weithio ar brosiectau ymchwil a gwerthuso ledled y DU. Mae diddordebau ymchwil Jo yn cynnwys addysg, anghydraddoldeb cymdeithasol, gofal plant a theuluoedd. Mae Jo yn fedrus mewn dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dylunio theorïau newid a fframweithiau gwerthuso yn ogystal â dylunio arolygon.
Mae Jo wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau yn Arad gan gynnwys gwerthusiad Llywodraeth Cymru o’r Cwricwlwm i Gymru, gwerthusiad y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol ar gyfer CLlLC ac ymchwil ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Pan nad yw yn Arad, mae Jo yn mwynhau rhedeg ar ôl ei dau fachgen ifanc, gwau, darlunio, a chanu'n uchel iawn i karaoke.