Anest Williams
Ymchwilydd
Ymunodd Anest ag Arad ym mis Ebrill 2024, sy’n ei gwneud hi'r aelod diweddaraf o’r tîm. Cyn ymuno ag Arad, bu'n gweithio mewn siop lyfrau annibynnol ac fel swyddog prosiect cyfieithu i Gyngor Llyfrau Cymru. Mae ei diddordebau ymchwil eang yn cynnwys addysg, y celfyddydau a diwylliant, polisi cymdeithasol, anghydraddoldeb a chynwysoldeb, a'r iaith Gymraeg.
Mae profiad prosiect ymchwil Anest yn cynnwys gwerthusiadau ledled Cymru o'r system Cwricwlwm i Gymru a’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, gwerthusiad o'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru, ac ymchwilio i'r dylanwad y mae'r Ganolfan Ddysgu Cymraeg yn ei gael ar yr iaith Gymraeg. Mae ganddi sgiliau mewn ymchwil desg, cynnal arolygon a chyfweliadau, a dadansoddi data ansoddol a meintiol.
Y tu allan i ymchwilio, mae Anest yn hoffi treulio’i hamser yn darllen, rhedeg, pobi bara, a cherdded o gwmpas Caerdydd gyda Malwen y milgi. Mae hi'n rhugl yn y Gymraeg.