Ein gwaith
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ymchwil gan gynnwys gwerthuso, dadansoddi a datblygu polisi, astudiaethau effaith economaidd a chymdeithasol, dylunio arolygon, dadansoddi data ac astudiaethau dichonoldeb.
Ein Cleientaid
Dros 20 mlynedd, rydym wedi datblygu perthynas waith cryf gyda'n cleientiaid o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru a'r DU. Dyma rai o'r sefydliadau rydym wedi gweithio gyda nhw.
“Roedd gwerthusiad o’n Strategaeth Sgiliau Ffilm yn drylwyr ac yn fanwl. Roeddem yn falch iawn o ansawdd allbynnau, dibynadwyedd data ac adrodd cysylltiedig, cadernid a thrylwyredd y fethodoleg. Argymhellir yn fawr, mae Arad yn rhoi gwerth am arian.”
— ScreenSkills
“Roeddem wrth ein bodd gyda’r adroddiad, oedd yn llwyr gyfarfod â briff y prosiect, a roeddem hefyd wrth ein bodd â’r berthynas waith effeithiol y ffurfiwyd gyda thîm Arad. Fe wnaeth Arad argraff arbennig arnom gyda’r syniadau creadigol a gyflwynwyd, o ran sut byddai’r prosiect yn cael ei gynnal, a’r argymhellion terfynol.”
— Cyngor Celfyddydau Cymru
“Ychwanegodd gwerthusiad annibynnol Arad gryn dipyn o bwys i’r negseuon a dynnwyd o’r gwethusiad ac at ganlyniadau’r prosiect, gan hwyluso ymgysylltiad parhaus rhanddeiliaid allweddol er mwyn gallu cydweithio yn y dyfodol.”