Jennifer Lane
Uwch Ymchwilydd

 

Mae Jennifer yn Uwch Ymchwilydd; ymunodd ag Arad yn 2013. Mae’r meysydd o ddiddordeb ymchwil iddi yn cynnwys plant a theuluoedd, addysg, hyfforddiant a sgiliau. Gyda BSc mewn Seicoleg a MSc mewn Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg, mae gan Jennifer brofiad o gynnal cyfweliadau, dylunio arolygon a dadansoddi data ar gyfer prosiectau ymchwil ansoddol a meintiol.

Mae profiad prosiect ymchwil Jennifer yn cynnwys gwerthusiadau cenedlaethol o gynllun Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, gwerthusiad o'r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru (ar ran CLlLC), ymchwil ansoddol gyda theuluoedd sy'n derbyn cymorth drwy raglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru, a gwerthusiad o Brosiect CWTCH Cymru Versus Arthritis sy'n darparu cefnogaeth i bobl sy'n byw gydag arthritis.

Y tu allan i Arad, mae Jennifer yn chwaraewr cornet brwd ac yn mwynhau perfformio mewn cyngherddau a chystadlaethau gyda'i band pres lleol.