Economi a diwydiant
Mae gan ein tîm arbenigedd mewn cynnal asesiadau effaith economaidd ac ymchwil yn ymwneud â diwydiant neu ddatblygiad busnes.
-
Cyswllt Ffermio (2024)
Roedd yr asesiad hwn yn cynnwys arolwg o bron i 300 o ffermwyr a oedd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth cynghori. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar asesu'r effaith a gafodd y gwasanaeth ar drosiant a phroffidioldeb busnesau fferm, yn ogystal â'r effaith ar faterion amgylcheddol gan gynnwys gostyngiadau ar ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwell lles anifeiliaid.
-
Menter a Busnes (2024)
Adolygodd yr asesiad hwn yr effaith economaidd a’r elw ar fuddsoddiad a gynhyrchir gan y rhaglen, gyda’r nod o gefnogi ffermwyr cig eidion, defaid a llaeth i wneud defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o’u glaswelltir. Roedd yr adolygiad hefyd yn ystyried yr effaith amgylcheddol ehangach a gafodd hyn ar leihau dibyniaeth ar wrtaith a phorthiant anifeiliaid a brynwyd.
-
(Llywodraeth Cymru, 2018-19)
Ar hyn o bryd, mae Arad a ICF yn gwerthuso Cyswllt Ffermio, sy’n ceisio cynyddu cynhyrchiant/proffidioldeb ar draws y sector amaethyddiaeth trwy gefnogi’r defnydd o wybodaeth academaidd ar draws y sector. Mae’r rhaglen yn darparu amrywiaeth o fecanweithiau cymorth i helpu ffermwyr i ddatblygu sgiliau a defnyddio dulliau arloesol. Bydd y gwerthusiad yn asesu perfformiad y rhaglen yn erbyn blaenoriaethau’r Rhaglen Datblygu Gwledig ac yn darparu tystiolaeth ar arfer da, darpariaeth a chynnydd tuag at y canlyniadau a fwriedir. Bydd dysgu o’r rhaglen bresennol yn helpu i lywio’r gwaith o gynllunio ymyriadau yn y dyfodol mewn cyd-destun ar ôl gadael yr UE.
-
(Urdd Gobaith Cymru, 2018)
Cynhaliodd Arad asesiad effaith economaidd o Urdd Gobaith Cymru, gan gynnwys ei heffaith economaidd ar yr economi ar lefel genedlaethol ac ar lefel ranbarthol. Roedd yr asesiad yn cynnwys effaith canolfannau preswyl unigol yr Urdd. Roedd y gwaith yn cynnwys dadansoddi data gwariant a data a gasglwyd gan weithwyr yr Urdd, aelodau o’r cyhoedd a chyflenwyr.
-
(Theatr Clwyd, 2018)
Ar hyn o bryd, mae Arad yn cynnal astudiaeth ar gyfer Theatr Clwyd yn canolbwyntio ar ei heffaith economaidd ar Sir y Fflint a Gogledd ddwyrain Cymru yn ehangach drwy arolygon staff, cyflenwyr ac ymwelwyr. Mae’r astudiaeth hefyd yn archwilio effaith ddiwylliannol a chymdeithasol ehangach y sefydliad drwy asesu ei raglenni allgymorth a ac ansawdd y cynnig diwylliannol.