Ymchwil Iaith cymraeg
Rydym yn gweithio ar draws ystod eang o feysydd polisi iaith Gymraeg, gan gynnwys ymchwil ar ddefnydd iaith a chynllunio strategol ar gyfer datblygu’r Gymraeg.
-
(Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol 2018)
Gwerthusodd Arad y cynllun Cymraeg Gwaith, sy’n rhoi cyfleoedd i weithwyr ddysgu Cymraeg neu ddatblygu eu Cymraeg ymhellach er mwyn cwrdd ag anghenion busnes eu cyflogwr. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfres o wasanaethau cymorth i gyflogwyr (yn enwedig yn y sector cyhoeddus) a chyflogeion, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, dwys a phreswyl. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys datblygu fframwaith gwerthuso a chasglu adborth gan amrywiaeth eang o ddysgwyr a chyflogwyr er mwyn llywio’r broses barhaus o ddatblygu’r cynllun.
-
(Llywodraeth Cymru, 2018)
Ar hyn o bryd mae Arad a Phrifysgol Bangor yn gwerthuso’r rhaglen Cymraeg i Blant, sydd â’r nod o gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Ei amcanion yw cefnogi rhieni, darpar rieni ac aelodau eraill o’r teulu i gyflwyno a defnyddio’r Gymraeg yn y cartref, trosglwyddo’r Gymraeg i’w plant, a chefnogi datblygiad iaith plant. Mae’r gwerthusiad yn cynnwys datblygu theori newid ar gyfer y rhaglen, adolygiad o ddata monitro, ymchwil gyda staff gweithredol a strategol Cymraeg i Blant, ac ymchwil gyda rhieni sy’n mynychu gweithgareddau Cymraeg i Blant.
-
(Mudiad Meithrin, 2017-18)
Cynhaliodd Arad adolygiad o’r strwythurau a’r prosesau sydd ar waith gan Mudiad Meithrin i sicrhau bod y sefydliad yn gallu cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Roedd y gwaith yn cynnwys adolygu’r gwahanol raglenni a gweithgareddau cymorth sydd ar waith gan y Mudiad Meithrin i ddatblygu’r sector gofal plant cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
-
(Llywodraeth Cymru, 2016)
Cynhaliodd Arad Research a Phrifysgol Caerdydd ddarn o waith ymchwil i’r amodau sy’n dylanwadu ar drosglwyddo a defnyddio’r Gymraeg o fewn teuluoedd. Diben y gwaith oedd astudio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar p’un a yw rhieni yn trosglwyddo’r iaith i’w plant ai peidio ac ym mha amgylchiadau. Cynhaliodd Arad gyfres o 60 o gyfweliadau ansoddol a manwl gyda theuluoedd ar draws Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Gwynedd ac Ynys Môn, gan gasglu data am eu hanes gyda’r iaith a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio o fewn y teulu ar hyn o bryd.
-
(Comisiynydd y Gymraeg, 2016)
Cynhaliodd Arad adolygiad o’r trefniadau rheoli ar gyfer sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithlu ar draws y 22 awdurdod lleol a’r 8 byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Roedd yr adolygiad yn cwmpasu trefniadau rheoli strategol, cynllunio a monitro’r gweithlu, recriwtio a datblygu sgiliau (gan gynnwys hyfforddiant). Bu Arad yn ymgynghori ag aelodau allweddol o staff ar lefel weithredol ac uwch strategol o fewn pob awdurdod.