Felicity Morris
Ymchwilydd
Mae Felicity yn ymchwilydd a ymunodd ag Arad yn 2022, tra yn ei chamau olaf o gwblhau ei doethuriaeth mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd. Archwiliodd ei doethuriaeth brofiadau ac effaith Cymdeithion Meddygol (PAs) yng nghyd-destun GIG Cymru. Mae gan Felicity brofiad o ddylunio arfau casglu data, cynnal ymchwil desg, arolygon, cyfweliadau a dadansoddi data ansoddol a meintiol. Mae ei meysydd o ddiddordeb ymchwil yn cynnwys iechyd, addysg a phlant a theuluoedd.
Mae profiad prosiect ymchwil Felicity yn cynnwys Gwerthusiad Ffurfiannol o'r Cwricwlwm i Gymru i Lywodraeth Cymru, gwerthuso Prosiect CWTCH Cymru Versus Arthritis sef prosiect cymorth yn y gymuned ar gyfer pobl sy'n byw gydag arthritis, gwerthuso Caru Darllen Ysgolion ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru, ac ymchwil i brofiadau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Y tu allan i Arad, mae Felicity wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau, mynd i'r gampfa, a chwarae tenis.