Martin Jones
Cyfarwyddwr

 

Mae Martin yn un o gyfarwyddwyr sefydlol Arad. Mae ganddo brofiad helaeth o ddylunio arfau ymchwil a gwerthuso ac o gyfarwyddo prosiectau ar gyfer cleientiaid megis llywodraeth leol a chenedlaethol, prifysgolion, a sefydliadau celfyddydol a threftadol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar werthusiad ffurfiadol o’r Cwricwlwm i Gymru i Lywodraeth Cymru, gwerthusiad o'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol ar gyfer CLlLC, a gwerthusiad o'r rhaglen Magnetic Residencies ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae'n siarad Ffrangeg a Sbaeneg. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau traethau Gŵyr, darllen, a mynd i gyngherddau.