Newyddion
Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiadau cyhoeddedig diweddaraf, prosiectau newydd a newyddion eraill Arad yma.
-
Rydym yn falch iawn o ddathlu 20 mlynedd mewn busnes y mis hwn. I nodi'r garreg filltir hon, dyma gyflwyno ein gwefan newydd.
Mae gennym nifer o brosiectau diddorol ar y gweill – yn cynnwys:
· Gwerthuso'r rhaglen Preswyliadau Celfyddydau Gweledol ‘Magnetic’ ar gyfer Cyngor Celfyddydau Lloegr
· Asesu prosiect cymorth busnes a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Welsh ICE
· Adolygu marchnata a chyfathrebu gwaith ieuenctid yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru
· Gwerthusiadau parhaus o ddiwygio addysg i Lywodraeth Cymru, gan gwmpasu'r Cwricwlwm i Gymru a'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Diolch yn fawr i bawb fu’n gymorth dros y blynyddoedd, i'n hymchwilwyr, ein cleientiaid a'n cydweithwyr, a phawb sy'n ein helpu i gynnal ein hymchwil. Rydym yn falch o'n gwaith yng Nghymru ac ar draws y DU ac yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi yn y dyfodol.
-
Mae Arad yn arwain gwerthusiad o'r newidiadau i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, gyda’r ymchwil yn parhau tan 2027. Mae'r gwerthusiad hwn, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys datblygu theori newid ac asesu gweithrediad y system ADY. Mae’r dulliau ymchwil yn cynnwys dadansoddi data, arolygon a gwaith maes gydag ymarferwyr addysg, swyddogion awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion, rhieni a dysgwyr.
Drwy'r gwerthusiad hwn, nod Arad yw cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall effeithiolrwydd y diwygiad ADY a'i effaith.
-
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Arad i arwain gwerthusiad pedair blynedd o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, gyda chymorth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Stirling, y Brifysgol Agored yng Nghymru, a Phrifysgol Bangor. Mae'r ymchwil yn cynnwys nifer o ddulliau, gan gynnwys casglu data gydag ymarferwyr, ymchwil ysgolion a lleoliadau eraill, arolygon a chyfweliadau gyda dysgwyr, rhieni a gofalwyr a rhanddeiliaid addysg.
Drwy’r ymchwil, bydd Arad a'n partneriaid academaidd, yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddeall sut mae'r diwygiadau'n gweithio ac i archwilio i ba raddau y maent yn cael yr effaith a ddymunir ar bob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir na'u hanghenion.