Kara Stedman
Ymchwilydd

 

Mae Kara yn ymchwilydd a ymunodd ag Arad yn 2021 o gefndir mewn ymchwil gymdeithasol. Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb ymchwil iddi yn cynnwys addysg, gofal plant, y celfyddydau a diwylliant, a chyflogaeth a sgiliau. Mae gan Kara BSc mewn Cymdeithaseg a MSc mewn Gwyddorau Cymdeithasol, ac mae'n fedrus mewn dylunio arolygon, cynnal cyfweliadau a dadansoddi data meintiol ac ansoddol.

Mae profiad prosiect ymchwil Kara'n cynnwys adolygiad o warchod plant yng Nghymru, gwerthusiad o Gynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru, ymchwil cwmpasu i gynllun Bwndeli Babi Llywodraeth Cymru, gwerthusiad o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol, a gwerthusiad o raglen Sgiliau Ffilm y Dyfodol BFI.

Y tu allan i Arad, mae Kara yn treulio llawer o'i hamser hamdden yn cymdeithasu gyda ffrindiau a theulu, mynychu dosbarthiadau ymarfer corff, coginio, a jetio i ffwrdd ar wyliau.