Cymunedau

Rydym yn ymchwilio ac yn gwerthuso ymagweddau at ddatblygu cymunedol a rhaglenni sy'n cefnogi cynhwysiant cymdeithasol ar draws cymunedau amrywiol yn y DU.

 
  • (Oxfam Cymru, 2015)

    Roedd y prosiect Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru yn brosiect tair blynedd a gefnogwyd gan y Gronfa Loteri Fawr (Cymru) a weithiodd gyda chymunedau ymylol ledled Cymru, gan helpu unigolion a theuluoedd i wneud y gorau o’u hasedau a’u galluoedd, er mwyn mynd i’r afael â thlodi yn eu hardaloedd lleol. Er mwyn gwerthuso’r prosiect cynhaliwyd ymgynghoriadau un i un a grwpiau ffocws gyda staff y prosiect, cyfranogwyr y prosiect, grwpiau cymunedol a darparwyr gwasanaethau.

    Final Evaluation: Building Livelihoods and Strengthening Communities in Wales project - Oxfam Policy & Practice

  • (Llywodraeth Cymru, 2016-17)

    Comisiynwyd Arad i adolygu tystiolaeth o ymgynghoriad Trafod Cymunedau Llywodraeth Cymru ar ddyfodol Cymunedau’n Gyntaf. Casglodd yr ymgynghoriad safbwyntiau gan gymunedau ar themâu fel cyflogadwyedd, grymuso a chymorth blynyddoedd cynnar. Roedd y gwaith yn cynnwys adolygu o amgylch 2,400 ymateb i’r arolwg ar-lein, tystiolaeth ansoddol gan grwpiau ffocws a thua 600 o gyflwyniadau ysgrifenedig gan sefydliadau ac unigolion.

  • (Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy, 2016-17)

    Cynhaliodd Arad werthusiad o brosiect Llais Cymunedol Fawr Conwy a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr, a oedd yn ei gwneud yn bosibl i leisiau’r gymuned gael eu clywed drwy feithrin gallu sefydliadau i ymgysylltu â’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys ymgynghori â’r pum sefydliad trydydd sector ar draws Conwy, yn ogystal â buddiolwyr, er mwyn casglu eu barn ar effaith ac effeithiolrwydd y prosiect.

  • (Cyngor Torfaen, 2017-18)

    Comisiynwyd Arad gan Torfaen i gynhyrchu strategaeth newydd ar gyfer llyfrgelloedd a gwasanaethau gwybodaeth. Mae’r prosiect wedi golygu gweithio gyda Torfaen drwy broses gynllunio agored a chynhwysol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer mwy o ryngweithio rhwng llyfrgelloedd Torfaen a gwasanaethau/safleoedd eraill yn y sector cyhoeddus. Mae Arad wedi gweithio gydag uwch arweinwyr o fewn y Cyngor a staff llyfrgelloedd yn ogystal â chynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ynglŷn â gwasanaethau yn y dyfodol.

    Paratoi Strategaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth ar gyfer Torfaen

  • (Prince’s Trust, 2016)

    Gwerthusodd Arad prosiect sy’n gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a sefydliadau lleol ledled Cymru. Mae’r model yn rhagdybio y bydd Prince’s Trust, drwy ganolbwyntio ar y gwaith allgymorth hwn, mewn gwell sefyllfa i gysylltu â phobl ifanc o gymunedau BME a’u cyfeirio at raglenni perthnasol Prince’s Trust. Cafodd y gwerthusiad yn cael ei gynnal wrth i’r prosiect ddod i ben i ddangos effaith y prosiect yn ansoddol ac i ymchwilio i unrhyw wersi a ddysgwyd. Cynhaliodd Arad gyfweliadau gyda’r bobl ifanc a gefnogwyd a gyda’r partneriaid hynny sydd wedi helpu i lywio darpariaeth y rhaglen.

  • (Oxfam Cymru, 2015)

    Cwblhaodd Arad ymchwil i gyflawniad ac effaith y Rhaglen Athrawon Eithriadol, oedd â’r nod o wella ymarfer addysgu, gan adeiladu ar rinweddau presennol cyfranogwyr fel athrawon. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar y cymhellion dros gyfranogiad athrawon, cynllunio a chyflwyno rhaglenni, effaith (er enghraifft ar ansawdd addysgu ac ar ganlyniadau dysgu), manteision ehangach i’r ysgol o ran cyfranogiad a phwyntiau dysgu perthnasol. Roedd y fethodoleg yn cynnwys rhaglen o ymweliadau ag ysgolion a oedd yn cymryd rhan ac ymgynghoriadau dros y ffôn gydag athrawon a oedd yn cymryd rhan.

    Final Evaluation: Sanctuary in Wales project - Oxfam Policy & Practice