Cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau
Rydym yn cynnal ymchwil mewn meysydd fel cymorth cyflogaeth, datblygiad proffesiynol, hyfforddeiaethau a phrentisiaethau, a datblygu sgiliau sector-benodol.
-
(Llywodraeth Cymru, 2016-18)
Nod y rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yw cefnogi oedolion di-waith i gael swydd ac aros mewn gwaith drwy wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Cynnwys craidd y rhaglen yw lleoliad gwaith o ansawdd uchel neu hyfforddiant penodol i’r cyflogwr sy’n cael ei gyfuno â hyfforddiant paratoi am waith, a sgiliau hanfodol. Roedd y gwerthusiad yn asesiad ffurfiannol o ddyluniad a gweithrediad cychwynnol y rhaglen, er mwyn llywio datblygiad y rhaglen a datblygiad y rhaglen cyflogadwyedd newydd Llywodraeth Cymru i bob oed.
-
(Sefydliad Ffilm Prydain/Creative Skillset, 2015 a 2018)
Yn ddiweddar mae Arad wedi cwblhau gwerthusiad terfynol o’r Strategaeth Sgiliau Ffilm pedair blynedd sydd â’r nod o greu swyddi a chryfhau sylfaen sgiliau diwydiant ffilm y DG. Roedd y gwerthusiad, a oedd yn adeiladu ar ein gwerthusiad canol tymor, yn ystyried effaith economaidd a chreadigol y strategaeth drwy arolygon o unigolion a chyflogwyr a gymerodd ran yn yr hyfforddiant a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y diwydiant ffilm.
-
(Llywodraeth Cymru, 2017-19)
Mae Cynnydd ar Gyfer Llwyddiant yn ariannu gweithwyr i ymgymryd â chymwysterau gofal plant a chwarae cydnabyddedig i gynyddu eu lefelau sgiliau, gyda’r nod o godi ansawdd y ddarpariaeth a gynigir i blant ifanc. Nod y gwerthusiad yw asesu a yw’r rhaglen yn cyflawni ei hamcanion cyffredinol ac a yw’r model darparu yn effeithiol, yn ogystal ag asesu effaith sgiliau gweithwyr gofal plant. Mae’r gwerthusiad yn cynnwys gwaith maes ar raddfa fawr gyda rhanddeiliaid, darparwyr hyfforddiant, cyflogwyr yn y sectorau gofal plant a gweithwyr gofal plant sy’n ymgymryd â chymwysterau.
-
(Llywodraeth Cymru, 2018-20)
Nod y rhaglen hon yw datblygu unigolion talentog i gefnogi dull mwy strategol o reoli talent ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cyflogir graddedigion am hyd at ddwy flynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn mae’r graddedigion yn ymgymryd â thri lleoliad arwyddocaol o fewn gwasanaethau cyhoeddus wedi’u cyfuno ag addysgu a dysgu academaidd. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cwrs lefel Meistr newydd sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth a llywodraethu o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae gwaith Arad yn cynnwys datblygu theori newid ar gyfer y rhaglen, asesu a yw recriwtio, gweithredu a gweithgareddau wedi bod yn effeithiol, a thrafod goblygiadau ar gyfer mentrau yn y dyfodol.
-
(Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, 2014-18)
Mae Sgiliau ar Waith yn brosiect tair blynedd a gefnogir gan raglen Sgiliau ar Gyfer y Dyfodol Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae tri phartner cyflenwi: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae’r hyfforddeiaeth Sgiliau ar Waith yn darparu lleoliadau blynyddol gyda’r nod o roi profiad ymarferol yn seiliedig ar waith i unigolion o ran cadwraeth/rheoli ystadau. Mae’r gwerthusiad o’r prosiect yn cynnwys ymchwil gyda hyfforddeion i fesur y pellter a deithiwyd a’r staff sy’n cyflawni’r prosiect i gael dealltwriaeth fwy manwl o’u profiad o’r prosiect.
-
(Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, 2015)
Cafodd Arad, mewn cydweithrediad â Deryn, ein comisiynu i gynnal ymchwil i werth prentisiaethau yng Nghymru. Archwiliodd yr ymchwil effaith prentisiaethau ar unigolion o ran sgiliau, cynnydd mewn gyrfa ac enillion. Roedd hefyd yn ystyried yr effeithiau ar gwmnïau yn ogystal â rhai o’r manteision ehangach i’r economi.