Sam McAlister-Wilson
Ymchwilydd
Ymunodd Sam ag Arad fel ymchwilydd yn 2022. Mae Sam wrthi’n cwblhau doethuriaeth mewn Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol a BSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol. Mae diddordebau ymchwil Sam yn cynnwys addysg (yn arbennig yn drydyddol), anghydraddoldebau a phob agwedd o bolisi cymdeithasol. Mae Sam yn fedrus mewn dulliau ymchwil ansoddol a meintiol, ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn methodoleg a dadansoddiadau creadigol.
Mae Sam wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil yn Arad gan gynnwys dau werthusiad sylweddol ledled Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru (Gwerthusiad o’r Cwricwlwm i Gymru a Gwerthusiad o’r System Anghenion Dysgu Ychwanegol), yn ogystal ag ymchwil cwmpasu i gynllun Bwndeli Babi Llywodraeth Cymru a gwerthusiad o’r Profiad Ymchwil Ôl-raddedig ar ran CCAUC.
Pan nad yw yn Arad, mae Sam yn rhedwr a heiciwr brwd, ac yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored yn cadw i fyny gyda'i thri phlentyn egnïol.