Brett Duggan
Cyfarwyddwr
Mae Brett yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr Arad. Mae e wedi arwain astudiaethau ymchwil ar ran adrannau’r llywodraeth, sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol. Mae wedi gweithio ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys addysg a sgiliau, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, adfywio cymunedol a pholisi ym maes plant a phobl ifanc.
Ar hyn o bryd mae’n arwain tîm Arad ar werthusiad ffurfiannol pedair-mlynedd o’r Cwricwlwm i Gymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn gweithio mewn partneriaith gyda sefydliadau addysg uwch. Cyn ei amser yn Arad, bu’n gweithio i ymgynghoriaeth ymchwil Newidiem ac fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Brett yn siaradwr Cymraeg ac hefyd yn siarad Ffrangen ac Eidaleg.Tu allan i'r gwaith mae’n mwynhau gwersylla gyda’i deulu, chwarae pŵl ac yn gefnogwr ffyddlon i dîm rygbi Pontypridd.