Plant, pobl ifanc a theuluoedd
Rydym yn cynnal ymchwil a gwerthuso ar draws ystod eang o feysydd gan gynnwys ymgysylltu a dilyniant ieuenctid, gofal plant a rhaglenni cymorth i deuluoedd.
-
Cyngor Llyfrau Cymru (2023)
Trwy rhagraglen y Cyngor Llyfrau Cymru, darparwyd llyfr eu hunain i’w gadw i bob dysgwr mewn ysgolion gwladol ledled Cymru. Cafodd y llyfrau eu dosbarthu'n uniongyrchol i ysgolion ac roedd llyfrau hefyd ar gael i deuluoedd drwy flychau llyfrau a ddanfonwyd i fanciau bwyd. Roedd gwerthusiad Arad yn canolbwyntio ar yr effaith a gafodd y fenter hon ar annog plant a theuluoedd i ddarllen er pleser.
-
CLlLC (2022–23)
Cynhaliodd Arad gwerthusiad proses ac effaith o’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) ‘Bwyd a Hwyl.’ Cafodd y rhaglen ‘Bwyd a Hwyl’ ei roi mewn gweithrediad fel peilot mewn ymateb i bryderon cynyddol am dlodi bwyd a cholled dysgu'r haf ymhlith plant Caerdydd. Amcanion y gwerthusiad oedd archwilio beth yr oedd modelau darparu ysgolion ac awdurdodau lleol yn cynnwys. Amcanion y gwerthusiad effaith oedd archwilio i ba raddau yr oedd y prosiect yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd.
Adroddiadau ar gael yma
-
Llywodraeth Cymru (2021-22)
Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i werthuso blwyddyn gyntaf y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae. Y nod oedd darparu gwell cyfleoedd chwarae i blant mewn cymunedau bregus a gwireddu’r buddion a ddaw yn sgil hyn o ran datblygiad plant a lefelau gweithgaredd. Er mwyn mynd i'r afael â nodau'r gwerthusiad, adolygodd y tîm ystod o ddogfennau a data monitro a chynhaliwyd cyfweliadau â rhanddeiliaid gan gynnwys arweinwyr polisi a chyflawni.
Adroddiad ar gael yma.
-
(Llywodraeth Cymru, 2015-18)
Rhaglen o gymorth wedi'i thargedu at blant a theuluoedd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yw Dechrau’n Deg. Mae'n cynnwys ymweliadau iechyd, gofal plant a chymorth rhianta, gyda’r bwriad o wneud gwahaniaeth pendant i fywydau plant yn yr ardaloedd lle caiff ei ddarparu. Cynhaliodd Arad ymchwil hydredol, ansoddol dros dair blynedd i gasglu barn teuluoedd sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn, gan gasglu tystiolaeth ar eu hymgysylltiad â'r gwasanaethau ac effaith y gwasanaethau ar les y teulu.