Hefin Thomas
Cyfarwyddwr

 

Mae Hefin yn un o gyfarwyddwyr sefydlol Arad ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn rheoli prosiectau ymchwil ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid. Mae ei brofiad diweddar wedi cynnwys rheoli gwerthusiadau o ddiwygiadau addysg ar raddfa fawr, megis y Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â chynnal gwerthusiadau prosiect ac asesiadau effaith sefydliadol. Mae Hefin wedi gweithio ar draws ystod o sectorau gan gynnwys addysg a sgiliau, diwylliant a threftadaeth, chwaraeon a'r iaith Gymraeg.

Mae Hefin yr un mor gyfforddus yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg ac mae ganddo brofiad helaeth o ddylunio, rheoli, a chynnal ymchwil ansoddol a meintiol. Y tu allan i'r gwaith, mae Hefin yn mwynhau amrywiaeth o chwaraeon, hyfforddi rygbi iau, ac o bryd i'w gilydd, perfformio mewn band roc.