Newyddion

Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiadau cyhoeddedig diweddaraf, prosiectau newydd a newyddion eraill Arad yma.

 
  • Tachwedd 24 2022

    Bwriada Llywodraeth Cymru gyflwyno prosiect Bwndeli Babi Cymru. Bydd y cynllun yn rhoi ‘bwndel babi’ am ddim i rieni beichiog – anrheg sy‘n cynnwys eitemau i fabanod a rhieni, wedi‘u dosbarthu ychydig wythnosau cyn dyddiad dyledus y babi. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i gwmni ymchwil Arad i gasglu barn rhieni ar y bwndel babi, ei gynnwys a sut y bydd yn cael ei ddosbarthu.

    Dyma linc i’r arolwg, a hysbysiad preifatrwydd gyda rhagor o wybodaeth.

  • Tachwedd 17 2022

    Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i werthuso blwyddyn gyntaf Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae.

    Nod cyllid Gwaith Chwarae 2021 oedd caniatáu i gynlluniau gwaith chwarae yn y gymuned gynnig darpariaeth i fwy o blant nag y byddent wedi gallu gwneud fel arall, ac mae’r dystiolaeth werthuso yn dangos y darparwyd gweithgareddau newydd, ychwanegol. Mae chwarae awdurdodau lleol yn arwain croesawu’r cyllid ychwanegol sydd ar gael ar gyfer chwarae a dywedodd eu bod wedi caniatáu iddynt fynd i’r afael â bylchau a chynnig chwarae i fwy o blant mewn mwy o gymunedau. Mae’r adroddiad ar gael yma.

    Link to report

  • Awst 14 2022

    Rydym yn recriwtio ymchwilwyr. Mae mwy o fanylion a swydd ddisgrifiad yma.

  • Gorffennaf 13 2022

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad, mewn cydweithrediad â’r Brifysgol Agored a’r Athro Claire Sinnema o Brifysgol Auckland, yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.

    Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r theori, y tybiaethau a’r dystiolaeth sy’n sail i’r diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu ac yn nodi argymhellion ar gyfer rhaglen fonitro a gwerthuso gadarn.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Mehefin 28 2022

    Mae ail adroddiad gan Arad ar baratoadau ysgolion ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

    Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno darganfyddiadau o 48 cyfweliad ag uwch arweinyddion ac ymarferwyr mewn ysgolion ar dras Cymru. Dewiswyd rhain o blith y rhai â ymatebodd i’r arolwg ar Baratoadau ar gyfer Diwygiadau Cwricwlwm ac Asesu 2022 (wedi’i ymgymryd ym mis Mehefin a Gorffennaf 2021) ac wedi dewis i gael eu hailgysylltu.

    Pwrpas y cyfweliadau oedd archwilio ymatebion i’r arolwg mewn mwy o fanylder ac i ddysgu pa elfennau o wireddu’r cwricwlwm oedd yn gweithio’n dda a llai da.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Ebrill 28 2022

    Mae adroddiad gan Arad yn gwerthuso rhaglen Dyfodol Byd-eang wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

    Dyfodol Byd-eang yw cynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo’r holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu siarad gyda phobl mewn ieithoedd eraill, gan werthfawrogi eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill ac sy’n gallu manteisio ar ystod eang o gyfleoedd yma yng Nghymru ac ar draws y byd

    Prif nodau’r gwerthusiad oedd:

    • amcangyfrif y ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru

    • cyfuno’r dystiolaeth o Dyfodol Byd-eang 2015 i 2020 a’r effaith ar ysgolion, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer gwerthuso strategaeth 2020 i 2022

    • nodi sut y gall Dyfodol Byd-eang 2020 i 2022 addasu a chyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru

    • amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Dyfodol Byd-eang

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn

  • Ionawr 31 2022

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad ar baratoadau ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 yn archwilio paratoadau ymarferwyr ysgolion ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

    Mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi’u seilio ar arolwg ymhlith yr holl ysgolion a’r unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru, a ddosbarthwyd drwy nifer o sianeli. Cafwyd dros 600 o ymatebion i’r arolwg.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Ionawr 4 2022

    Mae adroddiad gan Arad ar gyfer Amgueddfa Cymru yn dadansoddi’r ymatebion a dderbyniwyd i ‘Holiadur casglu drwy Covid Cymru 2020’ wedi cael ei gyhoeddi. Bwriad yr arolwg oedd casglu straeon personol ar draws y wlad i greu darlun cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo cyntaf a thu hwnt. Roedd y cwestiynau yn cyffwrdd â’r themâu canlynol:

    • bywyd bob dydd

    • iechyd a lles

    • llywodraeth a gwybodaeth

    • y dyfodol

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r themâu gafodd eu hadnabod o fewn yr ymatebion i bob cwestiwn, ynghyd â dyfyniadau gan ymatebwyr unigol.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Ionawr 4 2022

    Mae adroddiad gan Arad ar Werthusiad o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

    Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad blwyddyn 1 y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu.

    Roedd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfweld â rhanddeiliaid allweddol, ac ymchwilio i ddata a gasglwyd drwy’r pasbort dysgu proffesiynol, yn ogystal â chyfweld ag ymarferwyr ar draws 20 o ysgolion yng Nghymru.

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r data a’r gwaith maes, gan amlinellu sut y defnyddiwyd y safonau, y gefnogaeth i ddefnyddio’r safonau, ac effeithiau tybiedig y safonau ynghyd â’r effeithiau a ragwelir.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.