Newyddion

Gallwch ddod o hyd i'n hadroddiadau cyhoeddedig diweddaraf, prosiectau newydd a newyddion eraill Arad yma.

 
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n cyflwyno canfyddiadau cam cyntaf y gwerthusiad ffurfiannol pedair blynedd o’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno theori newid ar gyfer y diwygiadau, yn crynhoi canfyddiadau o synthesis o’r dystiolaeth bresennol ar weithredu’r system ADY, ac yn nodi’r cynlluniau a’r blaenoriaethau ar gyfer camau nesaf y gwerthusiad.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Chwefror 6 2023

    Mae ein hadroddiad ar brofiad myfyrwyr ymchwil ôl-radd wedi’i gyhoeddi.

    Gan dynnu ar ymchwil gyda rhanddeiliaid a grwpiau ffocws gyda myfyrwyr, mae’r adroddiad yn rhoi mewnwelediadau a dealltwriaeth i CCAUC o’r materion sy’n wynebu myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

    Nod yr ymchwil oedd ymchwilio i agweddau allweddol ar brofiadau myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gan gynnwys cymorth academaidd, cyfleoedd datblygu a hyfforddi, adeiladu cymunedol ymhlith myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a chynrychiolaeth ar lefel sefydliadol. Mae’r adroddiad ar gael yma.

  • Medi 21 2023

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad sydd yn seiliedig ar ymchwil gydag ysgolion a dysgwyr ar weithrediad cynnar y Cwricwlwm i Gymru.

    Roedd yr ymchwil yn cynnwys dwy don o ymchwil ansoddol gydag arweinwyr ysgolion a dysgwyr yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 i ddeall sut mae’r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn gweithio, a’r elfennau sy’n rhwystro ac yn hwyluso gweithredu llwyddiannus.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.

  • Gorffennaf 11 2023

    Mae adroddiad gan Arad yn gwerthuso gweithgareddau Cwpan y Byd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi.

    Roedd gweithgareddau Cwpan y Byd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:

    • Y Gronfa Cefnogi Partneriaid a ariannodd 19 o sefydliadau diwylliant, chwaraeon ac addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd.

    • Ymgyrch farchnata estynedig, a oedd yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol ym meysydd busnes a thwristiaeth

    • Lleisiau Cymru: Llysgenhadon Cwpan y Byd – menter newydd yn cynnwys grŵp o bedwar unigolyn a weithiodd i godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac i helpu i greu canfyddiadau cadarnhaol hirdymor a meithrin perthnasoedd cryf â phartneriaid allweddol

    • Digwyddiadau rhyngwladol a drefnwyd gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, yn arbennig yn Qatar ac UDA.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn

  • Mehefin 15 2023

    Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arad i gynnal adolygiad annibynnol i ddeall yn well y rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru.

    Mae’r adolygiad yn amlinellu bod gostyngiad sydyn a pharhaus yn y nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig a hynny ar adeg pan fo’r galw am ofal plant yn debygol o gynyddu. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill ddenu a chadw gwarchodwyr plant, cefnogi gwarchodwyr plant presennol i ddarparu ar gyfer mwy o leoedd gofal plant a bod yn fwy hyfyw yn ariannol.

    Mae copi o’r adroddiad ar gael yma.

  • Mai 16 2023

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad terfynol Arad yn seiliedig ar werthusiad y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu, arwain a chynorthwyo gwaith addysgu.

    Mae’r adroddiad ar gael fan hyn ac yn yn dwyn ynghyd ganfyddiadau gwerthusiad blwyddyn 1 a blwyddyn 2.

    Roedd y gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfweld â rhanddeiliaid allweddol, ac ymchwilio i ddata a gasglwyd drwy’r pasbort dysgu proffesiynol, yn ogystal â chyfweld ag ymarferwyr ar draws ysgolion yng Nghymru.

    Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r data a’r gwaith maes, gan amlinellu sut y defnyddiwyd y safonau, y gefnogaeth i ddefnyddio’r safonau, ac effeithiau tybiedig y safonau ynghyd â’r effeithiau a ragwelir.

  • Ebrill 26 2023

    Roedd yr ymchwil yn cynnwys darpar-rieni a rhieni newydd; aelodau o’r gweithlu sydd â diddordeb mewn bwndeli babi, megis bydwragedd ac ymwelwyr iechyd; a sefydliadau rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda rhieni neu sy’n eu cefnogi.

    Amcanion yr ymchwil oedd casglu tystiolaeth i lywio’r gwaith o gyflwyno’r cynllun bwndeli babi, nodi’r eitemau hanfodol y dylid eu cynnwys yn y bwndel, a phenderfynu ar faes pwnc a fformat unrhyw wybodaeth a ddarperir i rieni fel rhan o’r bwndel. Bu’r ymchwil hefyd yn archwilio barn ar gofrestru ar gyfer y bwndel a’i gyflwyno, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am y bwndeli babi i ddarpar-rieni. Mae’r adroddiad ar gael yma.

    Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i estyn ein diolch i’r holl gyfranogwyr a roddodd eu hamser a rhannu eu sylwadau gwerthfawr gyda ni yn ystod y cyfweliadau a’r grwpiau ffocws. Diolch