Economi a diwydiant — Archive

 
  • (Grŵp Llandrillo Menai, 2017)

    Cynhaliodd Arad astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu parth menter bwyd ar gampws Glynllifon fel sbardun ar gyfer datblygiad a thwf y sector bwyd a diod yng ngogledd orllewin Cymru. Dilynwyd y gwaith hwn gan adolygiad o ddichonoldeb a datblygiad achos busnes i greu canolfan economi wledig ar gampws Glynllifon, gan gynnig ystod o gyfleusterau a gwasanaethau i gryfhau a gwella’r economi ranbarthol, yn benodol drwy dyfu y sector bwyd a diod.

  • (Creative Skillset Cymru, 2014-15)

    Gwerthusodd Arad y rhaglen sgiliau ar gyfer yr economi ddigidol: rhaglen £4,500,000 o ymchwil, hyfforddiant a chefnogaeth i’r diwydiannau creadigol wedi’i ddarparu rhwng 2011 a 2015 (wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru, S4C a’r gymdeithas fasnach i gynhyrchwyr teledu Cymru). Roedd methodoleg y gwerthusiad yn cynnwys arolygon o gyfranogwyr y cwrs a chyflogwyr y diwydiannau creadigol yn ogystal â chyfweliadau gyda chyfranogwyr, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a rhanddeiliaid. Cynhaliwyd astudiaeth effaith economaidd i bennu’r cyfraniad yr oedd yr hyfforddiant a’r cymorth wedi’i wneud i’r economi.

  • (S4C, 2013)

    ACynhaliodd Arad asesiad effaith economaidd o gynhyrchiad y Gwyll / Hinterland ar ran S4C. Amcangyfrifodd yr astudiaeth werth economaidd cynhyrchu’r gyfres deledu i economi leol Aberystwyth gan ddefnyddio dull lluosydd. Roedd y fethodoleg yn cynnwys arolygon o aelodau cast a chriw yn ogystal â busnesau lleol oedd yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r cynhyrchiad.

  • (Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru a Partneriaith Adfywio Powys, 2014)

    Ymchwiliodd Arad opsiynau ar gyfer datblygu canolfannau (gan ddefnyddio’r term Canolfannau Busnes i gynnwys ystod eang o wasanaethau ar gyfer busnesau, nid canolfannau corfforol yn unig). Roedd y gwaith yn cynnwys adolygiad desg o wasanaethau ar gyfer busnesau a chyfweliadau rhanddeiliaid i ddeall ystod y cefnogaeth eisoes ar gael i fusnesau. Cafodd tystiolaeth o’r gwaith hwn ei ddadansoddi fel rhan o arfarniad opsiynau a cafodd pedwar opsiwn eu profi un ystod cyfweliadau gyda 30 busnes a sefydliadau cynorthwyol.