Cyflogaeth, hyfforddiant a sgiliau — Archif
-
(Grŵp Llandrillo Menai, 2014-15)
Nod y prosiect Dyfodol oedd datblygu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni hyfforddi achrededig ar lefelau 1 i 3 sy’n canolbwyntio ar anghenion cyflogwyr yng Ngogledd Cymru. Ariannwyd y prosiect o flaenoriaeth 3 Thema 1 y rhaglen cydgyfeiriant yng Nghymru – gwella lefelau sgiliau a gallu’r gweithlu i addasu. Roedd y fethodoleg yn cynnwys arolwg o 300 o gyfranogwyr a 100 o fusnesau yn ogystal â chyfweliadau gyda rhanddeiliaid ac adolygiad desg o ddata monitro. Roedd yr adroddiad gwerthuso terfynol yn canolbwyntio ar effaith y prosiect ar gyfranogwyr a chyflogwyr ac economi ehangach gogledd orllewin Cymru.