Addysg — Archif
-
Archwiliodd y gwerthusiad effeithiolrwydd ac effaith y prosesau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod nodau’r strategaeth yn cael eu cyflawni. Ystyriodd y gwerthusiad hefyd i ba raddau yr oedd y strategaeth wedi gwireddu’r canlyniadau fel y nodwyd yn y fframwaith gwerthuso.
Yn ogystal â gwerthusiad cyffredinol o’r strategaeth, roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad o adnoddau addysgol; gwerthusiad o’r prosiect Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd; gwerthusiad o’r Cynllun Sabothol ar gyfer ymarferwyr; gwerthusiad o effaith y Mesur Dysgu a Sgiliau a gwerthusiad o’r ddarpariaeth Cymraeg ail iaith.