Celfyddydau, diwilliant a threftadaeth — Archif
-
(GYCHC, 2013-14)
Mae GYCHC yn cynnwys sefydliadau o’r sectorau treftadaeth, amgueddfeydd a llyfrgelloedd yng Nghymru. Nod yr ymchwil oedd adolygu llenyddiaeth gyfredol ac ymchwil a gynhaliwyd gan y partneriaid hyn i wahanol agweddau o ymgysylltiad y cyhoedd â hanes Cymru. Cynhaliodd Arad waith ymchwil a dadansoddi eilaidd yn ymwneud ag ystod eang o ddogfennaeth yn cynnwys dogfennau polisi strategol, arolygon bodlonrwydd ymwelwyr, gwerthusiadau o ddigwyddiadau penodol, ac astudiaethau effaith. Roedd yr adroddiad terfynol yn cynnwys asesiad o ymgysylltiad cyhoeddus cyfredol â hanes Cymru ac argymhellion arfaethedig i aelodau GYCHC i wella eu strategaethau ymgysylltu.