NEWYDDION
Cyhoeddi gwerthusiad o brosiect Gofal Plant ar Waith
Mawrth 25 2021
Profodd y prosiect Gwaith Gofal Plant ddulliau newydd o gefnogi datblygiad a hyfforddiant y gweithlu gyda’r nod o gynyddu gallu gweithlu’r sector gofal plant yng Nghymru a chefnogi unigolion sydd allan o waith i gael gwaith yn y sector.
Daw canfyddiadau’r gwerthusiad i’r casgliad bod y Prosiect wedi datblygu llwybr profedig o gefnogaeth i unigolion sydd allan o waith, a fyddai fel arall yn ei chael hi’n anodd iawn cael gwaith yn y sector gofal plant. Daw i’r casgliad hefyd bod y Prosiect wedi gweithio’n dda yng nghyd-destun y sector gofal plant ac yn cyflwyno’i hun fel model y gellid ei gymhwyso yng nghyd-destun sectorau eraill.
Gellir gweld yr adroddiad cyhoeddedig yma.