NEWYDDION
Cyhoeddi gwerthusiad Cymraeg i Blant
Chwefror 13 2019
Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i gwblhau gwerthusiad o’r rhaglen Cymraeg i Blant. Nod y rhaglen oedd cefnogi datblygiad ieithyddol plant yng Nghymru mewn cyd-destun cymdeithasol ac addysgol, gan gynyddu nifer y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae’r gwerthusiad yn canolbwyntio ar y ffordd y mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg, ac yn nodi a yw’n cyflawni ei phrif amcanion. Mae dolen i’r cyhoeddiad ar gael yma.