NEWYDDION

Cyhoeddi astudiaethau gofal plant

Mae canfyddiadau diweddaraf Arad ar werthusiad y Cynnig Gofal Plant bellach wedi’u cyhoeddi. Mae’r adroddiad gwerthuso trydedd flwyddyn hwn yn archwilio profiadau rhieni a darparwyr gofal plant.

Nododd llawer o rieni eu bod wedi cyrchu mwy o oriau o ofal plant ffurfiol tra bod y Cynnig Gofal Plant hefyd yn darparu’r potensial i gynyddu enillion a gweithio’n fwy hyblyg. Nododd llawer o ddarparwyr hefyd effeithiau cadarnhaol ar broffidioldeb a chynaliadwyedd eu busnesau.

Gohiriwyd y Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant newydd ym mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19, ac ailgyflwynwyd ei gyllideb i gefnogi anghenion gofal plant gweithwyr critigol ac anghenion plant sy’n agored i niwed. Gwnaethpwyd hyn trwy Gynllun Cymorth Gofal Plant Coronavirus. Adolygodd gwerthusiad Arad o’r cynllun hwnnw’r ffordd y cafodd y cynllun ei ddylunio, ei gyflwyno a’r gwersi a ddysgwyd. Ystyriodd hefyd yr effaith a gafodd ar rieni, darparwyr, teuluoedd plant sy’n agored i niwed, cynaliadwyedd y sector gofal plant yn y dyfodol a manteisio ar y Cynnig Gofal Plant yn y dyfodol.

Er gwaethaf effaith gadarnhaol Cymorth Gofal Plant – fel y nodwyd yn y gwerthusiadau uchod, mae grwpiau yn dal i golli allan ar Ofal Plant wedi’i ariannu, a fyddai wedi bod yn gymorth i ddychwelyd i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Cyhoeddir adolygiad Arad o’r grwpiau hynny a allai fod ar eu colled, Adolygiad o’r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni ym maes addysg, hyfforddiant neu ddychwelyd i’r gwaith heddiw hefyd.