NEWYDDION

Cyhoeddi adroddiad ymgynghoriad Sgiliau’r Dyfodol

Mae adroddiad gan Arad yn dadansoddi ymatebion i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru – Sgiliau’r Dyfodol – wedi ei gyhoeddi.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ym Medi 2020 yn gofyn am safbwyntiau ar newidiadau arfaethedig i gymhwyster y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (THS) a fframwaith trosfwaol Bagloriaeth Cymru Uwch.

Yn dilyn yr ymgynghoriad mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu cymryd y camau canlynol:

  • Dod â fframwaith Bagloriaeth Cymru Uwch i ben er mwyn canolbwyntio ar y cymhwyster annibynnol sy’n seiliedig ar sgiliau.
  • Creu cymhwyster newydd o’r enw ‘Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru’, a fydd ar gael o fis Medi 2023.
  • Dylunio’r cymhwyster newydd i fod yn fwy hylaw, yn fwy diddorol ac yn haws ei ddeall.

Gallwch ddarllen adroddiad canfyddiadau Arad a’r fersiwn gryno fan hyn.