NEWYDDION

Cyhoeddi adroddiad gwerthuso’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ar gyfer ymarferwyr addysg

Mae’r Cynllun Sabothol yn cynnig cyfnodau o astudio dwys, i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth, er mwyn i ymarferwyr addysg ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg a meithrin hyder mewn methodolegau addysgu dwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Daw’r gwerthusiad i’r casgliad bod y Cynllun yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i sgiliau Cymraeg ymarferwyr, a bod angen parhaus am y Cynllun. Ceir rhagor o fanylion a chopi o’r adroddiad fan hyn.