NEWYDDION
Adolygiad annibynnol o warchod plant
Mehefin 15 2023
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Arad i gynnal adolygiad annibynnol i ddeall yn well y rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn amlinellu bod gostyngiad sydyn a pharhaus yn y nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig a hynny ar adeg pan fo’r galw am ofal plant yn debygol o gynyddu. Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill ddenu a chadw gwarchodwyr plant, cefnogi gwarchodwyr plant presennol i ddarparu ar gyfer mwy o leoedd gofal plant a bod yn fwy hyfyw yn ariannol. Mae copi o’r adroddiad ar gael yma.